20.6.10

Bikini







Cymraeg English
(Please tick the language you need and uncheck the other.)


Ar gyfer fy mis mel, mi brynes i ficini oedd yn ffitio'n wych, ond erbyn hyn mae'r lastig wedi dechrau dirywio a phydru, felly dyma fynd ati i gopio'r siap a'r patrwm!


Roedd y gwreiddiol yn 'reversible' - mewn lliwiau pinc ac oren - streips un ochr, blodaur ochr draw. Mi wnes i archebu dau ddefnydd oedd yn cyd-fynd o wefan fabricland.co.uk heb eu gweld ar wahan i ar sgrin. Pan gyrhaeddon nhw, doeddwn i wir ddim yn siwr am y defnydd "llewpart" gwyrdd llachar... ond hei ho, trio patrwm allan o'n i ac felly, arbrawf oedd hwn am fod.

Top
Roedd copio'r siap gwreiddiol yn weddol hawdd, ac mi wnes i'r cyfan ar y peiriant gwnio tro yma nid ar yr serger / overlocker. Dw i ddim wedi llwyddo i gael tensiwn y lastig yn berffaith dwi ddim yn credu, ond mae o dal i eistedd yn iawn ar y corff. Dw i'n credu bod rhaid i'r tensiwn fod yn weddol slac, ond mymryn yn dynn- dim digon tynn i wneud i'r defnydd ryfflo fel sydd gen i.

Gwaelod
Tydw i ddim mor hapus hefo'r gwaelod - mi wnes i gawlach o'r strap / lastig, ond mae'n iawn pan mae'n cael ei wisgo. Dydi o ddim digon taclus, a dw i'n bwriadu cael ail dro ar wneud ail bar o waelodion.

Sarong
Roedd gen i ddigon o ddefnydd ar ol (roedd gen i 1m o bob un) i wneud sarong, gan ddefnyddio ryffl o'r llewpart, a prif ddarn o'r patrwm blodeuog.

Defnydd - defnyddo lycra / nofio o fabricland.co.uk



Dw i'n hapus iawn hefo'r canlyniad, ac yn bwriadu gwisgo'r bikini ar wyliau'n fuan. Dw i hefyd wedi archebu mwy o ddefnydd - mewn du a polca dua gwyn tro yma er mwyn cael set ychydig yn llai LLACHAR!


Diolch i Sigrid am y dull dwyieithog yma.



For my honeymoon, I bought a beautiful reversible bikini which was a great fit (fuller bust) but I was really sad that the elastic was now disintegrating, and rotting. As I couldn’t find anything that came close to what I wanted in terms of the versaitility of a reversible bikini, I decided my next sewing project was to recreate / copy this!


I loved the fact that the original was reversible – talk about capsule wardrobe. It was stripy pink / orange one side, and pink / orange flowers the other. So I found two swimsuit fabrics that were the same kind of colours in fabricland.co.uk, and ordered online. When the arrived I was a little bit disappointed in the kind of leopard print – it was a bit brighter that I imagined it to be, but this was all a bit of an experiment, so I cracked on with it.



I traced the top and bottom, made straps, and placed the elastic in the pieces – took hardly any time at all. The longest part was accurately copying the pattern of the original.

Top
I did this all on the sewing machine rather than serger / overlocker. I felt I had more control this way. I haven’t managed to get the tension right on the elastic, as it was all a bit of a trial. But when you’re wearing it, it doesn’t matter, so I’m not going to worry too much about it. Ideally I think they should have about 3% tension – hardly enough to distort the fabric, but enough to hold taut. (My effort is slightly too taught)

Bottoms
I’m not as happy with the bottoms, I messed up the straps, and it looks a bit messy, so I’m going to have another crack at it. But the one I’ve done is completely wearable, and I am planning to use it. It’s just not quite neat enough, and I KNOW I can do better.


Sarong
I ordered 1m of each fabric, and I had lots left over – so I made a sarong out of the flowery fabric, and a finished it with a ruffle of the leopard print at the bottom.


Fabric - lycra /swimsuit from fabricland.co.uk


I LOVE it! And I’m definitely going to wear this. I’ve now ordered two more fabrics – black /white polka, and plain black to make another, less bright, more sophisticated version of the same bikini.

Thank you Sigrid for this bilingual method.

No comments: